Ei Bendith ar ei Ben

God Bless the Prince of Wales

Line
Melody -
Line

Ar D'wysog gwlad y bryniau,
O boed i'r nefoedd wen
Roi iddo gyda choron,
Ei bendith ar ei ben.
Pan syrthia'r aur wialen,
Pan elo un i'r nef,
Y nef a ddalia i fyny
Ei law frenhinol ef!
Ar D'wysog gwlad y bryniau,
O boed i'r nefoedd wen
Roi iddo gyda choron,
Ei bendith ar ei ben.
2. Ei faner ef fo uchaf
Ar goedwig fyw y môr,
A'i liniau ef fo isaf
Wrth orseddfainc yr Iôr.
Dyrchafer gorsedd Prydain
Yng nghariad Duw a dyn,
Yn agos at orseddfainc
Y Brenin mawr ei hun.
Ei faner ef fo uchaf
Ar goedwig fyw y môr,
A'i liniau ef fo isaf
Wrth orseddfainc yr Iôr.

Line

| Welsh Songs Index | Home Page Robokopp |Home Page Musica|
Line