Difyrrwch y Brenin

On This Day

Line
Melody -
Line

Beth mae'r brenin yn fwynhau
Yn fwy neu lai na ni ein dau?
Pobol ddistaw ar bob awr
Yn ei senedd-dy gâr yn fawr.
Pobol dda am dalu treth,
Ei galon gâr uwchlaw pob peth;
Byddin iawn a llynges gref,
Hyn ydyw ei ddifyrrwch ef.
2. Hoffa cerddor gân a thant,
Ond hoffi mêl a wna ei blant;
Ceidw un ei aur tra gall,
Ond hoffi rhoddi wna y llall.
Fel yr ydym ffrindiau ffri,
Os bodlon pawb, wel bodlon fi;
Caed y brenin, fel pob dyn,
Ddifyrrwch yn ei ffordd ei hun.

Line

| Welsh Songs Index | Home Page Robokopp |Home Page Musica|
Line