Morfa Rhuddlan

The Red Marsh

Line
Melody - Seq. by Barry Taylor
Line

Du ac arswydus yw'r hanes am heddiw,
Trechodd Caethiwed fyddinoedd y Rhydd,
Ciliodd yr heulwen wrth weled ein distryw,
Cleddyf y gelyn a gariodd y dydd!
Gwylliaid ysgrechiant ar faes y gyflafan,
Ceisio ys glyfaeth mae'r blaidd a'r dylluan,
Wylo mae Rhyddid ar hen Forfa Rhuddlan,
Gwlad annibynnol byth mwyach ni bydd.
2. Cladded y Forfa dan donnau yr eigion,
Agor, O! Neifion, i'r dyfroedd eu dôr:
Dagrau rydasant delynau y dewrion,
DTyred i'n canol, O Arglwydd fy Iôr!
Eto edrychaf ar draeth y gyflafan;
Wadwyd mo Rhyddid er gwaethaf y cyfan,
Gwell ydoedd marw ar hen Forfa Rhuddlan,
Gwell ydoedd suddo i Ryddid y môr!

Line

| Welsh Songs Index | Home Page Robokopp |Home Page Musica|
Line