Cwm Rhondda

Line
Melody - John Hughes; Seq. by Barry Taylor
Line

Ann Griffiths

Wele'n sefyll rhwng y myrtwydd
Wrthddrych teilwng o fy mryd;
Er o'r braidd 'rwy'n Ei adnabod
Ef uwchlaw gwrthrychau'r byd:
Henffych fore!
Caf ei weled fel y mae.
2. Rhosyn Saron yw Ei enw,
Gwyn a gwridog, hardd Ei bryd!
Ar ddeng mil y mae'n rhagori
O wrthddrychau penna'r byd ;
Ffrind pechadur!
Dyma'r llywydd ar y mor.
3. Beth sydd imi mwy a wnelwyf
Ag eilunod gwael y llawr?
Tystio 'r wyf nad yw eu cwmni
I'w gymharu a'm Iesu Mawr.
O! am aros
Yn Ei gariad ddyddiau f'oes.

Note: many hymnals use "Guide me, O Thou great Jehovah" with this melody.

Line
| Welsh Songs Index | Home Page Robokopp |Home Page Musica|
Line