Hen Ffon Fy Nain

Line
Melody -
Line

A welsoch chi hen ffon fy nain
Sy'n union fel y saeth?
Mae'n hynach heddiw nag erioed
Ond nid yw lawer gwaeth;
Roedd hon mewn bri cyn bod run tren
Yn cario nain trwy'i hoes,
A'i chario wnaeth i byrth y bedd
Heb unwaith gweryl croes.

2. Trwy gymorth hon y troediai gynt
I'r capel dros y bryn,
Trwy'r haf a'r gaeaf, glaw a gwynt,
Y rhew a'r eira gwyn;
Ac os digwyddai daro'i throed
Wrth faen ar lwybr y fron,
Pan daenai'r nos ei phruddaidd len
"Diogel", meddai'r ffon.

3. Pan oeddwn gynt yn blentyn bach
Yn dechrau troedio cam,
I dy fy nain y rhoddwn dro
Heb wybod i fy mam;
Fe wyddwn hyn yn eithaf da,
Er maint fy ofn a'm braw,
Na chawswn gam gan undyn byw
Os byddai'r ffon gerllaw.

4. Ond erbyn hyn, mae nain mewn bedd,
Yn ieuanc ac yn llon,
Heb arwydd henaint ar ei gwedd
Yn rhodio heb ei ffon;
A'r ffon yn gorffwys ddydd a nos
Mewn cornel dawel, gain,
O na chawn innau fynd i'r bedd
Ar bwys "Hen ffon fy Nain".

Line

| Welsh Songs Index | Home Page Robokopp |Home Page Musica|
Line