Bugail Aberdyfi |
Mi geisiaf eto ganu cân I'th gael di'n ôl, fy ngeneth lan I'r gadair siglo ger y tân Ar fynydd Aberdyfi Paham, fy ngeneth hoff, paham Gadewaist fi a'th plant dinam Mae Arthur bach yn galw'i fam Ei galon bron a thorri Mae dau oer lliwaeth yn y llwyn A'r plant yn chwarae efo'r wyn O tyrd yn ôl, fy ngeneth fwyn I fynydd Aberdyfi. | 2. Nosweithiau hirion, niwlog, ddu Sydd ar fy mlaen, fy ngeneth gu O agor eto drws y ty Ar fynydd Aberdyfi O na chael glywed gweddi dlos Dy Arthur bach, cyn cysgi nos Ei rhyddiau bychan fel y rhos Yn wylo am ei fami. Gormesaist lawer arnaf, Men; Gormesais innau, dyna'r ben. O tyrd yn ôl, fy ngeneth wen I fynydd Aberdyfi. |
3. Fel hyn y geisiaf ganu cân I'th gael di'n ôl, fy ngeneth lan I eistedd eto ger y tân Ar fynydd Aberdyfi. Rwy'n cofio'th lais yn canu'n iach Ond fedri di, na neb o'th ach Ddiystyru gweddi plentyn bach Sydd eisiau gweld eu fami. Rhyw chwarae plant oedd dweud ffarwel; Cydhaddau wnawn, a dyna ddel. Tyrd ithau'n ôl, fy ngeneth fel, I fynydd Aberdyfi. |