Difyrrwch Gwyr Dyfi or Sad Was the Day |
Difyrrwch gwyr Dyfi yr hen amser gynt Oedd tair aur delyn chwareid gan y gwynt; Cwynai un mewn gofid mawr Pan chwythai'r gwynt y derw i lawr; Ond chware yn llawen trwy'r dydd heb ball, Tra'r coed yn dadwreiddio'n llu wnelai'r llall. | 2. Y drydedd a ganai yn brudd neu yn llon, Pa un i sicrwydd ni wyddai neb bron; Ond daeth derwydd barfog gwyn, Gwnaeth delyn deires o'r rhai hyn; I ganu yng Nghymru mewn cytgord llawn, Fe wnaeth o'r tair arall un delyn iawn. |