Hwb I'r Galon

Line
Melody -
Line

1-2: traditional 3-4: Llew Tegid

I ba beth y byddaf brudd,
Le pam y byddaf brudd;
I ba beth y byddaf brudd
A throi llawenydd heibio?
Tra bwy'n ieuanc ac yn llon,
Le'n ieuanc ac yn llon,
Tra bwy'n ieuanc ac yn llon,
Rhof hwb i'r galon eto.
Cytgan:
Ton ton ton, dyri ton ton ton,
Dyri ton ton ton, dyri ton ton ton,
Ton ton ton, dyri ton ton ton,
Dyri ton ton ton, dyri ton ton.

2. Hwb i'r galon doed a ddel,
Le'n wir a doed a ddel,
Hwb i'r galon doed a ddel,
Mae rhai na welant ddigon;
Ni waeth punt na llond y god,
Na waeth byth, na llond y god,
Ni waeth punt na llond y god,
Os medrir bod yn foddlon.
Cytgan:

3. Hwb i'r galon ienctyd mwyn,
Hwb ar hwb ieuenctyd mwyn,
Hwb i'r galon ienctyd mwyn,
Pe serch a swyn yn siomi;
Os bydd un yn troi ei gefn
Le'n wir, os trydd ei gefn,
Os bydd un yn troi ei gefn,
Daw'r gog drachefn i ganu.
Cytgan:

4. Hwb i'r galon ffyddlon, ffri,
Eto hwb i'r ffyddlon, ffri,
Hwb i'r galon ffyddlon, ffri,
Ni leddir fi gan deimlad;
Mae mwy o bysgod yn y mor,
Oes yn wir, yn nofio'r mor,
Mae mwy o bysgod yn y mor,
Na ddaliodd Sior a'i siarad.
Cytgan:

Line

| Welsh Songs Index | Home Page Robokopp |Home Page Musica|
Line