I Blas Gogerddan

This Garden Now

Line
Melody -
Line

I blas Gogerddan heb dy dad!
Fy mab erglyw fy llef,
Dos yn dy ôl i faes y gad,
Ac ymladd gydag ef.
Dy fam wyf fi, a gwell gan fam
It gollith waed fel
|: Neu agor drws i gorff y dewr
Na derbyn bachgen llwfr. :|
2. I'r neuadd dos, ac yno gwêl
Ddarluniau'r Prysiaid pur,
Mae tân yn llygad llym pob un
Yn olau ar y mur.
'Nid fi yw'r mab amharcha'i fam
Ac enw ty ei dad,
|: Cusenwch fi, fy mam, medd ef,
Ac aeth yn ôl i'r gad. :|
3. Daeth ef yn ôl i dy ei fam,
Ond nid, ond nid yn fyw,
Medd hithau, 'O fy mab, fy mab!
O maddau im, O Dduw!
Ar hyn atebai llais o'r mur,
'Trwy Gymru tra rhed dwfr,
|: Mil gwell yw marw'n fachgen dewr
Na byw yn fachgen llwfr. :|

Line

| Welsh Songs Index | Home Page Robokopp |Home Page Musica|
Line