Fflat Huw Puw

Line
Melody - Dydd Cyntaf O Awst
Line

Mae swn yn Mhortinllaen, swn hwylie'n codi:
Blocie i gyd yn gwichian, Dafydd Jones yn gweiddi:
Ni fedra'i aros gartre yn fy myw;
Rhaid i mi fynd yn llongwr iawn ar Fflat Huw Puw.
Fflat Huw Puw yn hwylio heno,
Swn codi angor; mi fyna'i fynd i forio:
Mi wisga'i gap pig gloew tra bydda'i byw,
Os cai fynd yn llongwr iawn ar Fflat Huw Puw.
2. Mi bryna'i yn y Werddon sane sidan,
Sgidie bach i ddawnsio, a rheiny a bycle arian;
Mi fyddai'n wr bonheddig tra bydda'i byw,
Os ca i fynd yn Gapten llong ar Fflat Huw Puw.
Mi gadwai'r Fflat fel parlwr gore,
Bydd sgwrio mawr a chrafu bob ben bore;
Mi fydd y pres yn sgleinio ar y llyw,
Pan fydda i yn Gapten llong ar Fflat Huw Puw.

Line

| Welsh Songs Index | Home Page Robokopp |Home Page Musica|
Line