Yn Iach i ti Gymru
Farewell My Dear Country |
Yn iach i ti Gymru, ffarwel i'th fynyddoedd, Dy nentydd grisialog a'th ddolydd diail; Y coedydd lle treuliais fy ieuanc flynyddoedd, Lle gwyliais agoriad y blodau a'r dail. Mae'r llong yn y porth yn disgwyl amdanaf, O gwae i mi feddwl y maedael erioed; Ffarwel! o'r holl famau, y buraf a'r lanaf, A'm cartref gwyn annwyl yng nghanol y coed. | 2. Fy nwylo ddychwelant yn llawn neu yn weigion I agor drws annwyl fy nghartref gwyn draw; Mae'r afon yn sisial yng nghlust yr hen eigion, Gan ofyn pa ddiwrnod yn ôl â fi ddaw. O am dy hen awyr i wrido fy ngruddiau, A'm hwian fel plentyn i huno mewn hedd; A phan y gadawaf hen fyd y cystuddiau, Rhwng muriau'r hen fynwent, O torrwch fy medd. |