Yn Nyffryn Clwyd
The Missing Boat
|
Yn Nyffryn Clwyd nid oes Dim ond darn bach o'r Groes, Oedd gynt yn golofn ar las fedd; Y bugail gân i'w braidd, Tra Einion Ririd Flaidd Yn gorffwys dan ei droed, Gan afael yn ei gledd. | 2. Ond cedwir ei goffâd Er mewn pridd, mewn parhad, Glân yw ei gleddyf fel erioed; Os caru cofio'r wyd Am ddolydd Dyffryn Clwyd, O cofia gofio'r dewr sydd Yno dan dy droed. |
3. Mewn angof ni chânt fod Wyr y cledd, hir eu clod, Tra'r awel tros eu beddau chwyth; Y mae yng Nghymru fyrdd O feddau ar y ffyrdd Yn balmant hyd pa un Y rhodia rhyddid byth. |