Yn Nyffreyn Llangollen

In the Vale of Llangollen

Line
Melody -
Line

Yn Nyffryn Llangollen ac ochor y Glyn
Roedd gynt hen delynor a'r hanes yw hyn;
Heb damaid i'w fwyta na llymaid o ddwr
Mewn newyn ac eisiau bu farw'r hen wr.
Ond i'w gladdedigaeth, gwirionedd oer yw,
Daeth digon o fwydydd i'w gadw e'n fyw.

2. Ni welwyd mo'r delyn fyth fyth wedi hyn,
Ond clywir hi'n fynych ar fynydd y Glyn;
Ym mysg y bwganod ran amlaf y bydd
Mewn brwyn ac mewn corsydd yn cwynfan yn brudd
'Os cnawd eto wisgwn ym myd dynol ryw,
Rhoddwn damaid i'n gilydd tra byddwn ni byw.'

Line

Line